|
Dydd Sadwrn Medi 29fed 2012
Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH [Map]
10:30yb – 4yh
MYNEDIAD AM DDIM – BWYD AM DDIM – CYNGOR AM DDIM
Dewch draw i Sioe Deithiol Lysieuol Cymru Viva! Medrwch:
- Blasu ehangder o fwydydd lysieuol o ledled y byd a fedrwch paratoi yn sydyn adre, neu fwydydd cyfleus
- Derbyn cyngor maethiannol un-wrth-un
- Pigo i fyny ryseitiau am ddim a thaflenni ffeithiol defnyddiol
- Eistedd i fewn ar demos coginio a chyflwyniadau llawn gwybodaeth
- Gweld a phrynu digonedd o bethau da lysieuol – o siocledau i golur di-greulondeb, bagiau neu lyfrau, bwydydd cyfleus neu ddillad, waledau neu siartiau wal a thegannau meddal neu grysiau-t a mwy!
- Ffeindio allan sut i fod yn fwy weithgareddol
- Cymryd hoe gyda phaned a byr-bryd llysieuol
Felly os ydych erioed wedi rhoi eiliad i feddwl am geisio fod yn llysieuol ond bod angen help llaw arnoch chi, yna darwch draw, a chasglwch eich copi o’n cylchgrawn “It’s Time To Go Veggie” am ddim, sydd yn llond dop o dipiau, ryseitiau, barn o’r sêr, gwybodaeth maethiannol a manylion o’r nifer rhesymau pam ei fod yn amser i ddod yn “veggie”.
Ffansio gwirfoddoli ar y diwrnod?
Mae angen arnom ni dîm o wirfoddolwyr i helpu staff Viva! yn y sioe, felly os medrwch sbario bore, prynhawn neu hyd yn oed y diwrnod cyfan, baswn yn caru clywed oddi wrthoch.
Byddai tasgiau yn cynnwys croesawu (a chyfri) ymwelwyr, cynorthwyo gyda’r sesiynau blasu bwyd, golchi lan, rhoi allan taflenni, gwisgo mewn gwisg anifail, a gofyn ymwelwyr i lenwi ein holidaur.
Felly os ydych chi am gymryd rhan, cysylltwch â Claire ar 0117 944 1000 neu ebostiwch claire@viva.org.uk.
Noddwyr
Mwy yn dod yn fuan
Stondinau
Mwy ar eu ffordd
Cyflwyniadau
Mynediad AM DDIM
Byddan nhw i gyd yn cael eu ffilmio yn broffesiynol i’r wefan
11.15yb-11.45yb: Trechu Clefyd y Siwgr Gyda’r Deiet-D
Veronika Powell MSc, Ymgyrchgydd Iechyd, Sefydliad Llysieuol a Figan & Viva!
Mae clefyd y siwgr yn cynyddu allan o bob reolaeth, gyda 3.3 miliwn o achosioni yn y DU yn unig eleni. Dewch i glywed am gyfrinachau yr unig deiet a fedrai atal neu ymdroi clefyd y siwgr. Mae gan y Deiet-D o’r SLlF y pwer i newid eich metabolaeth ac ymdroi clefyd y siwgr. Mae hefyd yn medru lleihau eich tebygrwydd o ddatblygu y clefyd. Fel y profir mewn treialau clinigol, mae’r deiet yma yn cynhyrchu canlyniadau gwell nag unrhyw meddiginiaeth unigol.
Canol Dydd-12:45yh: Pam Nad Oes Angen Bwydydd Llaethol Arnoch Chi
Juliet Gellatley, Sefydlydd a Chyfarwyddwr, Viva! a Sefydliad Llysieuol a Figan a Therapydd Maethiannol
Ydi hi’n naturiol i yfed llaeth ar ôl diddyfnu? Yn wir, a ydi’n ddiogel i yfed llaeth gwartheg o gwbl? Bydd Juliet yn edrych i mewn i’r nifer o faterion iechyd ac ymchwil newydd sydd yn dangos pam bo bwydydd llaethog yn gysylltiedig â chancr; sut mae hormonau tyfiant naturiol mewn llaeth yn ein effeithio ni a beth yw peryglon protein a brasder dirlawn? Hefyd, os nad ydych chi’n bwyta bwydydd llaethog, yna ble gewch chi eich calsiwm?
12.55yh-1.30yh: Achub y byd gyda chyllell a fforc!
Tony Wardle, Cyfarwyddwr Cyfrannog, Viva!; awdur Diet of Disaster
Mewnwelediad gwych i mewn i ddeall stâd ein planed. Faint mae beth ydym ni’n bwyta yn cyfrif mewn gwirionedd? Sut y mae bwyta cig yn ganolog i broblemau mwyaf llym amgylchedd ein byd. A’r diweddaraf ar pam bod ein deiet mor hanfodol i’r ateb.
1.40yh-2.20yh:
Bwyd i’r Hwyl
Juliet Gellatley, Sefydlydd a Chyfarwyddwr, Viva! a Sefydliad Llysieuol a Figan a Therapydd Maethiannol
Mae pedwar ymhob pump yn y DU yn honni eu bod yn isel o egni. Mae hyd yn oed mwy yn dweud eu bod yn dod yn ddiamynedd yn rhy hawdd. Mae ein genedl yn cymryd dros 800 miliwn o dabledi yn erbyn iselder bob blwyddyn. Mae nifer o ffactorau yn chwarae yma, ond pan rydych yn teimlo’n isel, yn ofydus, neu yn ddiamynedd, neu bod eich cof dim beth y dylsai fod, ydych chi byth yn cwestiynnu’r rhan mae eich deiet yn chwarae?
2.30yh-3.15yh:
Bwytawyr-gwenith neu Fwytawyr-cig?
Juliet Gellatley(BSc Swoleg Dip Maethiannaeth), Sefydlydd a Chyfarwyddwr, Viva! a Sefydliad Llysieuol a Figan a Therapydd Maethiannol
Bydd Juliet yn taclo’r syniadau ffals ein bod ni i ’fod‘ i fwyta cig a bwydydd llaethog, wedi’r cyfan dyna’r ffordd rydym ni wedi ein ffurfio, ynte? Bydd hi’n edrych i mewn i beth sydd yn wirioneddol iachus mewn deiet gyda chwis hwylog – ffeindiwch allan pa mor agos neu pa mor bell o’r deiet perffaith ydych chi! Cyngor maethiannol ar gael am ddim yn ystod y cyflwyniad yma!
3.30yh-4yh: Diogelwch Soya
Veronika Powell MSc, Ymgyrchgydd Iechyd, Sefydliad Llysieuol a Figan & Viva!
Dibyncio’r byncym! A mae digon ohono fe! Ydi soya yn fwyd gwych neu yn fwyd gwael? Ffeindiwch allan y gwybodaeth gywir ddiweddaraf.
Cookery Demos
11.30-12.10 – Jane Easton o Viva!.

 Tofutastig! Ryseitiau cyflym gyda bwydydd swper ffa-og
- Tofu wedi ei sgramblo gyda thomato a brenhinllys ffres
- Mws siocled moethus
- Saws cawsiog gyda phasta
- Quinoa & smoked tofu salad with peppers, tomato, cucumber and fresh herbs
2.30yh-1.10yh – Gareth, y siocledwr crai o Hipo Hyfryd, yn rhannu ei gyfrinachau...

- Tortiau siocled
- Trwfflau
- Gwneud siocledau o ffa coco
1.45-2.45 – Jane Easton o Viva!.

Figaneiddiwch e! Bydd Jane yn gwneud Wrapiau Ffa Du a Chourgette Mecsicanaidd o gynhwysion o’r archfarchnad. Wedyn bydd gweithdy/sesiwn C&A ar ffyrdd hawdd i figaneiddio eich prydiau – eich brecwast, cinio, swper, pwdin a hyd yn oed bwyta allan. Dewch a’ch cwestiynau, syniadau… gwneith ei gorau i helpu!
Map
Gweler Map Mwy
Anfonwch gwahoddiad arlein
|